Gwefan Cyngor Gofal Cymru

Teclyn gwybodaeth gyrfaoedd mewn gofal cymdeithasol neu’r blynyddoedd cynnar

Cyflwyniad

Gyrfa ym maes gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar yn apelio? Ansicr sut i fynd ati?

Wedi meddwl am swydd ond ddim yn siŵr pa gymhwyster neu brofiad sydd ei angen?

Eisiau gyrfa lle rydych yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol bob dydd, ond ddim yn gwybod beth yw’r opsiynau?

Mae gyrfaoedd ym maes gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar yn cynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd i bobl o bob oed. Mae yna lawer o wybodaeth i’w darllen a’i deall gan fod yna gymaint o swyddi, grwpiau cleientiaid a chymwysterau perthnasol gwahanol.

Mae’r teclyn hwn yn ceisio eich helpu i ganfod gyrfa a fydd yn rhoi boddhad a mwynhad i chi drwy eich helpu i ystyried:

 

1

Pa grwpiau o bobl fyddech chi a diddordeb gweithio gyda nhw

2

Pa feysydd gwasanaeth, neu leoliadau gwaith, sy’n apelio atoch chi

3

Y sgiliau a’r nodweddion personol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa dewisol

4

Llwybrau mynediad i’ch dewis gyrfa

5

Y cymwysterau angenrheidiol neu a argymhellir ar gyfer eich llwybr gyrfa dewisol

6

Cyfeiriadau a dolenni i ragor o wybodaeth a all eich rhoi ar ben ffordd

Barod? Cliciwch i ddechrau

 

Yn ôl i’r Brif Wefan